Swyddog Gweinyddu a Datblygu Systemau TG

Cardiff Council
Full time Full day
£38,223 - £42,403 / year
Cardiff
Am Y Gwasanaeth


Mae cyfle prin a chyffrous wedi codi yn y Gwasanaethau Plant ar gyfer Swyddog Gweinyddu a Datblygu Systemau TG. Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am weinyddu systemau a datblygiad parhaus system cofnodi cleientiaid y Gwasanaethau Plant – sef CareFirst ar hyn o bryd, ond Eclipse fydd y system yn y dyfodol.


Am Y Swydd


Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig i gyflawni amrywiaeth eang o ddyletswyddau, gan gynnwys:






  • Goruchwylio’r gwaith o weinyddu a chynnal a chadw system CareFirst yn barhaus.

  • Paratoi CareFirst yn barod ar gyfer newid i Eclipse.

  • Datblygu system Eclipse i fodloni gofynion cofnodi ac adrodd statudol, cenedlaethol a lleol.

  • Goruchwylio'r gwaith o ddatblygu a darparu hyfforddiant ar gyfer CareFirst ac Eclipse ar gyfer defnyddwyr newydd a phresennol – gan gynnwys modiwlau e-ddysgu a chymorth.

  • Cynnig cymorth, help a chefnogaeth barhaus i ddefnyddwyr.

  • Arwain ar waith prosiect penodol cysylltiedig.



Beth Rydym Ei Eisiau Gennych


Mae profiad sylweddol o reoli a datblygu systemau TG yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i reoli eich amser a gweithio dan bwysau i sicrhau bod y tîm prysur hwn yn rhedeg yn ddidrafferth. Mae cywirdeb a rhoi sylw i fanylion yn bwysig iawn i'r swydd hon.





Bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr effeithiol â’r gallu i ddeall y materion mewn perthynas â’r gyfarwyddiaeth ynghyd â phrofiad blaenorol o oruchwylio staff o ddydd i ddydd. Mae profiad o CareFirst, Eclipse neu system cofnodion cleientiaid gofal cymdeithasol tebyg yn hanfodol.


Gwybodaeth Ychwanegol


Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.


Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.


Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â [email protected] i gael trafodaeth.


Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.


Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:


Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-



  • Canllaw ar Wneud Cais

  • Ymgeisio am swyddi gyda ni

  • Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol


Gwybodaeth Ychwanegol:-



  • Siarter Cyflogeion

  • Recriwtio Cyn-droseddwyr

  • Hysbysiad Preifatrwydd



Job Reference: PEO03866

How to apply

To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.

Post a resume

Similar jobs

Talent Tent
Full time Full day
Climate change is the greatest challenge facing humanity today, and the impacts are being felt around the world. Green Ibex helps organisations evaluate the climate challenges they are facing now and in the future.That's where you come in, Green Ibex...
Cardiff
Cardiff Council
Full time Full day
£38,223 - £42,403 / year View job
Am Y Gwasanaeth Mae Derbyn ac Asesu yn dîm cyffrous sy’n newid yn gyflym, oherwydd demograffeg Caerdydd mae’r gwaith yn amrywiol a chynyddol. Mae ymarferwyr yn cynnal asesiadau lles ac A47 ac yn cynnig ymyraethau tymor byr i gefnogi teuluoedd...
Cardiff
Mirus Wales
Full time Full day
£12 / hour View job
Are you ready to make a meaningful impact in the lives of others? Mirus are a non-profit organisation, established in Cardiff for over 35 years making a positive difference to the lives of people we support. Our Respite service in...
Cardiff