Gweithiwr Cymdeithasol Derbyn ac Asesu
Cardiff Council
Full time Full day
Mae Derbyn ac Asesu yn dîm cyffrous sy’n newid yn gyflym, oherwydd demograffeg Caerdydd mae’r gwaith yn amrywiol a chynyddol. Mae ymarferwyr yn cynnal asesiadau lles ac A47 ac yn cynnig ymyraethau tymor byr i gefnogi teuluoedd i gynyddu diogelwch yn y cartref. Mae ymarferwyr yn cadw achosion am gyfnod byr; mae gwaith tymor hir fel arfer yn cael ei drosglwyddo yn y cyfarfod cynllunio cyntaf.
Mae’r Tîm ar rota dyletswydd am un o bob tair wythnos, sy’n golygu eich bod yn cael y cyfle i gynllunio a chofnodi eich gwaith mewn ffordd strwythuredig a threfnus.
Am Y Swydd
Mae’r swyddi yn rhai parhaol ac wedi’u lleoli yn y Tîm Ymateb Cychwynnol, yn Derbyn ac Asesu.
Gallai Gweithwyr Cymdeithasol fod yn rhan o achosion gofal a chyfraith preifat. Mae Timau Derbyn ac Asesu Caerdydd yn cynnwys staff profiadol sy'n cefnogi ei gilydd yn ystod cyfnodau heriol. Mae Caerdydd yn gweithio’n greadigol dan fodel Arwyddion Diogelwch am y canlyniadau gorau posibl i deuluoedd. Mae Cyngor Caerdydd yn gwerthfawrogi personél asiantaeth; mae cyfleoedd hyfforddi ar gael i bawb i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus.
Manteision a gynigir
Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Gweithio hybrid – eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.
- Llwyth achos cyfartalog o 20
- Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£41,298– £45,478). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Dyma ychydig o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clod Caerdydd.
- Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd: Gwaith Cymdeithasol Caerdydd
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o asesu, cynllunio gofal, cynllunio â ffocws ar y person a sgiliau rheoli gofal, gan weithio gyda’r holl bartneriaid i nodi ac ateb anghenion cymorth gofal unigolion.
Bydd angen i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, meddu ar sgiliau asesu ardderchog a gallu ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG da.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£43,223 - £47,403). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Os oes gennych unrhyw bryderon am eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir cysylltwch â [email protected] am sgwrs.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03232
How to apply
To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.
Post a resume