Rheolwr Cofrestredig - Chartref Plant Caerdydd
Cardiff Council
Full time Full day
Gwasanaethau Plant - Preswyl
Rheolwr Cofrestredig
Mae disgwyl i recriwtio i gartref plant newydd Caerdydd agor ym mis Ionawr 2024
Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y tri chartref yn dal cyfanswm o bedwar person ifanc ac yn cael eu cefnogi'n llawn gan dimau aml-broffesiynol.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae'r ddarpariaeth newydd hon yn gyfle i arloesi yn y ffordd yr ydym yn deall anghenion y grŵp pwysig hwn o bobl ifanc. Bydd y model aml-broffesiynol hwn yn gweithio ar sail dull sy’n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) ac sy’n seiliedig ar drawma i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau arwain a rheoli gwych, gan sicrhau bod y lleoliadau yn bodloni pob safon reoleiddiol er mwyn cynnig gofal o safon ardderchog i’r plant a’r bobl ifanc sy’n preswylio yno am hyd at 12 wythnos. Y nod yw deall eu hanghenion yn fwy trylwyr a sicrhau llwybr neu leoliad a all fodloni eu hanghenion.
Bydd angen i chi allu bodloni gofynion Rheoliadau'r Gwasanaethau a Reoleiddir.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd angen i chi feddu ar y cymwysterau priodol a bod ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru yn ogystal â meddu ar brofiad helaeth o weithio mewn lleoliad gofal plant preswyl ar lefel reoli. Bydd angen agwedd bositif a gweithgar, ynghyd â thechnegau rheoli effeithiol a phrofiad o weithredu newid ac arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau. Mae sgiliau cyfathrebu ardderchog a'r gallu i negodi a chyfryngu yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
I gael mwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn cysylltwch â'r Unigolyn Cyfrifol newydd [email protected]
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â [email protected] i gael trafodaeth.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02782
How to apply
To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.
Post a resume