Social Media Officer (Welsh Essential) Talent Pool | Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol (Cymraeg yn Hanfodol)
Transport for Wales

Please note: this is an opportunity to join the Social Media Officer (Welsh Essential) Talent Pool.
Equal Opportunities
At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Who we are
At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing.
We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs.
Role responsibilities
Join Our Social Media Officer (Welsh Essential) Talent Pool! We’re building a talent pool of talented social media professional with Welsh language skills for upcoming Social Media Officer roles.
While there are no current vacancies, successful applicants will be placed in our Talent Pool. When a suitable position becomes available within the next 12 months, we’ll reach out to discuss the opportunity.
As a Social Media Officer you will support the day-to-day delivery of TFW social media channels. This is role where you will provide an engaging, informative and friendly interactive experience for our customers via online social media - replying to messages, posting key service updates and supporting the delivery of the social media strategy.
The role requires shift work, including weekends - currently, the team work between the hours of 7am and 8pm.
Apply today and secure your place in our Talent Pool!
Responsibilities include but are not limited to the following:
• Responding to customer feedback, queries and complaints via social media, ensuring all queries are answered appropriately and in the right timescale.
• Ensure the reasons for all customer contacts are fully investigated using a variety of resources and industry systems, including liaising with other internal departments and industry stakeholders.
• Support the delivery of engaging social content and campaigns. Help to administer and coordinate posts.
• Assist in analysing and reporting on key metrics generated by social content, creating daily summaries and weekly reports.
• Act as a champion for social media best practice and provide updates to Customer Relations Management on emerging trends.
Who we’re looking for
• Experience of using social media – especially Twitter and Facebook
• Previous Customer Service Experience
• Ability to work under pressure
• Good organisational skills
• Proficient in Microsoft packages
Welsh Language Skills
The ability to speak/write Welsh is an essential requirement for this role.
Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Next steps
Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details.
TFW is a Disability Confident employer. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful.
This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible.
Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications.
If you have submitted an application for this role within the last 6 months and were unsuccessful, please do not re-apply as regrettably, your application will not be considered.
Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship.
Sylwch: cyfle yw hwn i ymuno â’r Gronfa Dalent o Swyddogion Cyfryngau Cymdeithasol (Cymraeg yn Hanfodol).
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Ymunwch â’n Cronfa Dalent o Swyddogion Cyfryngau Cymdeithasol (Cymraeg yn Hanfodol)!
Rydyn ni’n adeiladu cronfa dalent o weithwyr proffesiynol talentog ym maes y cyfryngau cymdeithasol, sydd â sgiliau Cymraeg, ar gyfer y swyddi Swyddogion Cyfryngau Cymdeithasol sydd ar y gweill.
Er nad oes swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu rhoi yn ein Cronfa Dalent. Pan fydd swydd addas yn codi yn ystod y 12 mis nesaf, byddwn yn cysylltu â chi i drafod y cyfle.
Fel Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol, byddwch yn cefnogi’r gwaith o ddarparu sianeli cyfryngau cymdeithasol TrC o ddydd i ddydd. Mae hon yn swydd lle byddwch chi’n darparu profiad rhyngweithiol diddorol, cyfeillgar a llawn gwybodaeth i'n cwsmeriaid drwy gyfryngau cymdeithasol ar-lein, gan ymateb i negeseuon, cyhoeddi diweddariadau pwysig am ein gwasanaeth, a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r swydd yn gofyn am weithio shifftiau, gan gynnwys ar benwythnosau – ar hyn o bryd, mae’r tîm yn gweithio rhwng 7am ac 8pm.
Gwnewch gais heddiw a sicrhau eich lle yn ein Cronfa Dalent!
Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:
• Ymateb i adborth, ymholiadau a chwynion cwsmeriaid drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau bod pob ymholiad yn cael ei ateb yn briodol ac yn brydlon.
• Gwneud yn siŵr ein bod yn ymchwilio’n llawn i’r rhesymau dros bob neges gan gwsmeriaid, gan ddefnyddio systemau'r diwydiant ac amrywiaeth o adnoddau eraill, gan gynnwys cysylltu ag adrannau mewnol eraill a rhanddeiliaid y diwydiant.
• Cefnogi'r gwaith o ddarparu ymgyrchoedd a chynnwys cymdeithasol diddorol. Helpu i weinyddu a chyd-drefnu negeseuon.
• Helpu i ddadansoddi ac adrodd ar fetrigau allweddol sy’n cael eu cynhyrchu gan gynnwys cymdeithasol, gan greu crynodebau dyddiol ac adroddiadau wythnosol.
• Hyrwyddo'r arferion gorau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Reolwyr Cysylltiadau Cwsmeriaid am dueddiadau sy’n dod i’r amlwg.
Am beth rydyn ni’n chwilio
• Profiad o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol – yn enwedig Twitter a Facebook
• Profiad blaenorol ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid
• Gallu gweithio dan bwysau
• Sgiliau trefnu da
• Medrus yn defnyddio pecynnau Microsoft
Sgiliau Iaith Gymraeg
Mae’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.
How to apply
To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.
Post a resumeSimilar jobs
Home Delivery Driver

Cleaner (Evenings)
