Principal Engineer(Infrastructure Projects) | Prif Beiriannydd (Prosiectau Seilwaith)
Transport for Wales

Equal Opportunities
At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Who we are
At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing.
We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs.
Role responsibilities
The Principal Engineer is responsible for leading the overall technical assurance process across a portfolio of Transport for Wales (TfW) Infrastructure projects and will lead the development of engineering governance strategies and manage engineering teams to support the successful delivery of major infrastructure projects.
- Lead a multi-disciplined engineering team to manage governance and technical assurance to safeguard investment by ensuring delivered infrastructure projects are safe, interoperable, technically compliant and are delivered to the specified quality within constraints of time and cost.
- Manage the transfer of assets from projects to the Infrastructure Manager through monitoring engineering compliance to provide asset longevity and ensure the supplied product is fit for purpose and maintainable in the future.
- Demonstrate Infrastructure projects have been delivered against the appropriate compliance by liaising with the Infrastructure Operator, the Rail Safety and Standards Board, the Office of Rail and Road, and regulatory bodies to ensure the correct legislation is adhered to.
- Provide senior technical representation and expertise through high-level meetings and contact points to support all stakeholders
Who we’re looking for
- Demonstrable experience of leading teams on large, high value, and complex capital infrastructure projects.
- Experience of managing a technical assurance process on major projects throughout its full project lifecycle.
- Core knowledge of Building and Civils, Track, Signalling, Telecoms and Electrification and Plant disciplines.
- Thorough knowledge of the key roles under CDM and how they influence project activities.
Welsh Language Skills
The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role.
Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Next steps
Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details.
Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful.
This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible.
Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications.
Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship.**
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Y Prif Beiriannydd sy’n gyfrifol am arwain y broses sicrwydd technegol gyffredinol ar draws portffolio o brosiectau Seilwaith Trafnidiaeth Cymru (TrC), a bydd yn arwain y gwaith o ddatblygu strategaethau llywodraethu peirianneg ac yn rheoli timau peirianneg i gefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau seilwaith mawr yn llwyddiannus.
- Arwain tîm peirianneg amlddisgyblaethol i reoli’r gwaith o lywodraethu a rhoi sicrwydd technegol i ddiogelu buddsoddiad drwy sicrhau bod y prosiectau isadeiledd a ddarperir yn ddiogel, yn rhyngweithredol, yn cydymffurfio’n dechnegol ac yn cael eu cyflawni i’r ansawdd a bennwyd o fewn cyfyngiadau amser a chost.
- Rheoli’r gwaith o drosglwyddo asedau o brosiectau i'r Rheolwr Seilwaith drwy fonitro cydymffurfiaeth beirianyddol er mwyn darparu oes hir i asedau ac i sicrhau bod y cynnyrch a ddarperir yn addas i'r pwrpas a bod modd ei gynnal yn y dyfodol.
- Dangos bod prosiectau Isadeiledd wedi cael eu cyflawni yn erbyn y cydymffurfiad priodol drwy gysylltu â'r Gweithredwr Seilwaith, y Bwrdd Diogelwch a Safonau Rheilffyrdd, Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, a chyrff rheoleiddio i sicrhau bod y ddeddfwriaeth gywir yn cael ei dilyn.
- Darparu arbenigedd a chynrychiolaeth dechnegol uwch drwy gyfarfodydd lefel uchel a phwyntiau cyswllt i gefnogi’r holl randdeiliaid
Am bwy rydyn ni’n chwilio
- Profiad amlwg o arwain timau ar brosiectau seilwaith cyfalaf sy'n fawr, uchel eu gwerth a chymhleth.
- Profiad o reoli proses sicrwydd technegol ar brosiectau mawr drwy gydol oes y prosiect.
- Gwybodaeth greiddiol am ddisgyblaethau Adeiladu a Pheirianneg Sifil, Traciau, Signalau, Telegyfathrebiadau a Thrydaneiddio a Pheiriannau.
- Gwybodaeth drylwyr am y rolau allweddol o dan CDM a sut maent yn dylanwadu ar weithgareddau’r prosiect.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
How to apply
To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.
Post a resumeSimilar jobs
Procurement Manager | Rheolwr Caffael

Principal Buildings and Civils Engineer

Energy and Climate Change Coordinator | Cydlynydd Ynni a Newid Hinsawdd
