CYNORTHWY-YDD GWAITH CYMDEITHASOL
Cardiff Council
Full time Full day
Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n Gwasanaeth Pobl Hŷn a Namau Corfforol yn y Gwasanaethau Oedolion.
Mae hon yn swydd barhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae’r rôl gyda'n Tîm Ysbytai yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr gofal a gweithwyr proffesiynol eraill. Byddwch yn ymuno â thîm o gydweithwyr profiadol ac ymroddedig sy'n gweithio i sicrhau bod lleisiau dinasyddion Caerdydd yn cael eu clywed, a bod eu canlyniadau'n cael eu hystyried.
Am Y Swydd
Mae'r swydd hon yn swydd Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol Gradd 6 sy'n gweithio yn ein Tîm Ysbytai
Mae'r maes gwasanaeth yn cynnwys amrywiaeth o aelodau tîm, gan gynnwys Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol, Rheolwyr Tîm, Rheolwr Gwasanaeth a Gweithwyr Cymorth Cartref. Bydd y rôl benodol hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a gwybodaeth ymhellach o fewn tîm proffesiynol, cefnogol, creadigol a gweithgar
Eich prif gyfrifoldeb fydd cynnig asesiadau a chynllunio gofal i Ddinasyddion Caerdydd sydd eisoes yn derbyn gwasanaeth gennym ni, neu sydd angen gwasanaeth newydd gennym ni i gefnogi eu rhyddhau o'r ysbyty
Mae hon yn swydd gyffrous a fydd yn rhoi'r gallu i chi ddatblygu eich gwybodaeth yn y maes gofal cymdeithasol gyda'r bwriad o ddilyn gyrfa mewn gwaith cymdeithasol yn y dyfodol
Mae’r rôl yn cynnwys:
- Gweithio mewn tîm i reoli ceisiadau sy'n dod i mewn am gymorth a newidiadau i wasanaethau sydd eisoes yn bodoli.
- Siarad yn uniongyrchol â dinasyddion a'u teuluoedd gan gynnig cymorth a sicrwydd.
- Cefnogi dinasyddion dros y ffôn.
- Cyfathrebu â gweithwyr cymdeithasol a chydweithwyr yn y gwasanaeth a gweithio gyda nhw i ymateb i ddinasyddion.
- Gweithio gyda chydweithwyr mewn sectorau eraill o Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddod o hyd i'r atebion gorau i gynorthwyo dinasyddion.
- Cysylltu â darparwyr gofal yn y sector gofal cartref i sicrhau bod anghenion dinasyddion yn cael eu diwallu.
- Ymateb yn briodol i unrhyw bryderon diogelu.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Parodrwydd i ddysgu a datblygu.- Y gallu i wrando a chyfathrebu ag amrywiaeth o bobl.
- Sgiliau cyfrifiadurol a pharodrwydd i ddysgu sut i ddefnyddio systemau sydd eisoes yn bodoli.
- Sgiliau datrys problemau ac ymagwedd gadarnhaol.
- Diddordeb mewn gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed.
- Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion.
- Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Fel arfer cynhelir cyfweliadau ar Teams, ond os byddai'n well gennych gael cyfweliad wyneb yn wyneb, rhowch wybod i ni.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Gwnewch gais heddiw neu cysylltwch â ni drwy e-bost [email protected] i drefnu trafodaeth bellach am y cyfle hwn!
Job Reference: PEO03646
How to apply
To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.
Post a resume