Gwyddonydd Labordy
Severn Trent
Date: 7 hours ago
City: Oswestry
Contract type: Full time
Helô, Hafren Trent ydym ni, ac rydym yn credu bod dŵr yn rhagorol. O, rydym yn eitha’ hoff o bobl, hefyd.
24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gwasanaethwn 4.8 miliwn o aelwydydd a busnesau ledled craidd y Deyrnas Unedig. Mae pob paned a yfir a phob toiled a fflysir ond yn bosibl oherwydd y 6,500 o aelodau tîm ardderchog sy’n gweithio ledled ein hardal.
Croesawn bobl o bob cefndir a dathlwn unigoliaeth. Gwyddom fod amrywiol feddyliau, profiadau a chefndiroedd yn ein helpu i ddysgu ac i wasanaethu’n well ein cwsmeriaid a’r cymunedau lle maent yn trigo.
Os oes arnoch eisiau gwneud mwy oherwydd eich bod yn teimlo gofal, carem siarad gyda chi. Mae yna yn wir rywbeth i bawb yma.
POPETH Y MAE ARNOCH ANGEN EI WYBOD
Mae gan ein tîm Ansawdd Dŵr ac Amgylchedd gyfle i chi ymuno fel ein Gwyddonydd Labordy newydd ar gontract cyfnod penodol o 12 mis.
Yr oriau gwaith ar gyfer y rôl yw dydd Llun i ddydd Iau, o 9.00yb tan 5.00yh, a dydd Gwener, o 9.00yb tan 4:30yh, am gyfanswm o 37 awr yr wythnos.
Yn eich rôl newydd, byddwch yn gyfrifol am gynnal dadansoddiadau cemegol o ddŵr yfed a samplau cysylltiedig o weithfeydd trin dŵr, cronfeydd gwasanaeth, tapiau cwsmeriaid ac arolygon dalgylchoedd, er mwyn cyflawni ymrwymiadau rheoleiddiol i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI).Bydd angen i chi feddu ar wybodaeth am weithdrefnau a safonau profi Ansawdd Dŵr, gan sicrhau bod pob agwedd ar y gwaith profi yn cael ei chyflawni gan ddefnyddio’r prosesau a’r dulliau cywir.
Fe fyddwch yn gyfrifol am ddadansoddi ffrydiau gwaith cyfaint uchel, cymhleth, gan ddefnyddio system Labordy LIMS (System Rheoli Gwybodaeth Labordy) i adrodd canlyniadau ac i sicrhau y caiff samplau eu profi o fewn terfynau amser blaenoriaeth gofynnol a hyd at y safon uchaf o brofi Ansawdd Dŵr i sicrhau y diogelir iechyd y cyhoedd.
Bydd Rhai O’ch Cyfrifoldebau Allweddol Eraill Yn Cynnwys
Dymunwn i’n Gwyddonydd Labordy newydd fod yn gartrefol wrth sicrhau y caiff pob agwedd o waith ei gwneud gan ddefnyddio’r gweithdrefnau, y prosesau a’r dulliau cywir a ddogfennir o fewn y System Rheoli Ansawdd i sicrhau cydymffurfiad ag ISO17025 a Safonau Rheoliadol.
I fod yn llwyddiannus, disgwylir y bydd gennych yn ddelfrydol o leiaf chwe mis o brofiad labordy, 5 TGAU gradd uwch neu gyfwerth a chymhwyster uwch mewn disgyblaeth wyddonol neu fod yn meddu ar aelodaeth o gorff proffesiynol.
Bydd arnoch angen meddylfryd dadansoddol, trefnus a’r gallu i gyfathrebu ac i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm. Bydd arnoch hefyd angen sgiliau Technoleg Gwybodaeth a datrys problemau cryf, ac yn gallu rhoi sylw da i fanylion gyda’r gallu i gadw cofnodion cywir.
Mae’r sgiliau a’r profiad iawn yn bwysig. Ond os oes gennych y cymeriad iawn, y positifrwydd ac agwedd ofalgar, mae arnom eisiau siarad gyda chi hefyd.
Croesawn bobl o bob cefndir a dathlwn unigoliaeth, gan y gwyddom fod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu ac i wasanaethu’n cymunedau yn well. Mae arnom eisiau pobl sy’n torchi llewys a chymryd rhan. Y rheiny sy’n barod i fod yn rhan o rywbeth mwy ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth oherwydd y teimlant ofal. Ai chi yw’r person hwnnw?
PA FANTEISION SYDD YNA I CHI?
Mae gweithio yma yn fwy nag ond swydd. Gallwch adeiladu gyrfa yn Hafren Trent, a gwnawn eich gwobrwyo amdano hefyd. Mae gennym ystod o fuddion sy’n cydnabod gwaith gwych, a hyfforddiant a enillodd wobrau i’ch helpu i gyrraedd eich potensial. A gwnawn hefyd eich helpu i wneud eich rhan wrth ofalu am yr amgylchedd a’r cymunedau lle rydym yn byw.
Gyda Hynny Mewn Golwg, Dyma Ond Rhai O’n Hoff Fanteision y Cewch Wrth Fod Yn Rhan o Deulu Hafren Trent
Rydym yn awyddus i glywed gennych.
Cyn ichi ymgeisio, bydd arnoch angen copi wedi’i ddiweddaru o’ch CV a thua pum munud i’w ymroi.
Ac os yw hyn wedi ennyn eich chwilfrydedd ac mae arnoch eisiau canfod hyd yn oed mwy o wybodaeth, chwiliwch am ar gyfryngau cymdeithasol.
O.N.: Gwnawn bob amser adael ichi wybod canlyniad eich cais ar ôl y dyddiad cau – felly cadwch lygad ar eich ffôn a’ch e-byst.

- Dehongli, gwirio ac adrodd data dadansoddol a rheolaethau ansawdd dadansoddol, yn unol â gofynion y System Rheoli Ansawdd (QMS), gan gael y gallu i nodi canlyniadau anghynrychioladol, ymchwilio ac ymateb yn briodol.
- Meddu ar ddealltwriaeth dda o brosesau labordy, gan ganiatáu nodi a dehongli canlyniadau neu sefyllfaoedd anghynrychioladol i sicrhau y cymerir y cam cywir.
- Cael dwysâd a chwblhad cyflym o ymchwiliadau gwaith nad yw’n cydymffurfio gan nodi’r achos gwraidd a gweithredu camau cywirol ac ataliol.
- Cynnal gofynion cymwyseddau’r Arolygiaeth Ansawdd Dŵr ac ISO 17025 trwy gymryd rhan yn: cynlluniau profi hyfedredd allanol sy’n bodloni’r gyfradd lwyddo ofynnol, cynnal cofnod Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD), cynhyrchu data Rheoli Ansawdd Dadansoddol (AQC), ac archwiliadau tystio dulliau.
- Mae ymateb i ddigwyddiad neu fod wrth gefn yn gofyn am y gallu i nodi paramedrau dadansoddi cywir a chymorth technegol gyda gwerthuso canlyniadau.
- Bydd angen i chi gymryd rhan mewn rota wrth gefn a galwadau allan fel rhan o’r rôl.
Dymunwn i’n Gwyddonydd Labordy newydd fod yn gartrefol wrth sicrhau y caiff pob agwedd o waith ei gwneud gan ddefnyddio’r gweithdrefnau, y prosesau a’r dulliau cywir a ddogfennir o fewn y System Rheoli Ansawdd i sicrhau cydymffurfiad ag ISO17025 a Safonau Rheoliadol.
I fod yn llwyddiannus, disgwylir y bydd gennych yn ddelfrydol o leiaf chwe mis o brofiad labordy, 5 TGAU gradd uwch neu gyfwerth a chymhwyster uwch mewn disgyblaeth wyddonol neu fod yn meddu ar aelodaeth o gorff proffesiynol.
Bydd arnoch angen meddylfryd dadansoddol, trefnus a’r gallu i gyfathrebu ac i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm. Bydd arnoch hefyd angen sgiliau Technoleg Gwybodaeth a datrys problemau cryf, ac yn gallu rhoi sylw da i fanylion gyda’r gallu i gadw cofnodion cywir.
Mae’r sgiliau a’r profiad iawn yn bwysig. Ond os oes gennych y cymeriad iawn, y positifrwydd ac agwedd ofalgar, mae arnom eisiau siarad gyda chi hefyd.
Croesawn bobl o bob cefndir a dathlwn unigoliaeth, gan y gwyddom fod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu ac i wasanaethu’n cymunedau yn well. Mae arnom eisiau pobl sy’n torchi llewys a chymryd rhan. Y rheiny sy’n barod i fod yn rhan o rywbeth mwy ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth oherwydd y teimlant ofal. Ai chi yw’r person hwnnw?
PA FANTEISION SYDD YNA I CHI?
Mae gweithio yma yn fwy nag ond swydd. Gallwch adeiladu gyrfa yn Hafren Trent, a gwnawn eich gwobrwyo amdano hefyd. Mae gennym ystod o fuddion sy’n cydnabod gwaith gwych, a hyfforddiant a enillodd wobrau i’ch helpu i gyrraedd eich potensial. A gwnawn hefyd eich helpu i wneud eich rhan wrth ofalu am yr amgylchedd a’r cymunedau lle rydym yn byw.
Gyda Hynny Mewn Golwg, Dyma Ond Rhai O’n Hoff Fanteision y Cewch Wrth Fod Yn Rhan o Deulu Hafren Trent
- 25 diwrnod o wyliau + gwyliau’r banc (a’r gallu i brynu/gwerthu hyd at 5 diwrnod y flwyddyn)
- Cynllun bonws blynyddol (o hyd at £1,500 y flwyddyn wedi’i seilio ar berfformiad y cwmni)
- Cynllun pensiwn gwych – byddwn yn dyblu’ch cyfraniad (hyd at 15% pan gyfrannwch chi 7.5%)
- Sharesave – y cyfle i brynu cyfranddaliadau yn Hafren Trent Ccc ar gyfradd is
- Hyfforddiant a datblygu penodedig gyda’n ‘Academi’
- Cynllun cerbyd trydan a chynigion adwerthu
- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd
- Deuddydd o wirfoddoli y flwyddyn
Rydym yn awyddus i glywed gennych.
Cyn ichi ymgeisio, bydd arnoch angen copi wedi’i ddiweddaru o’ch CV a thua pum munud i’w ymroi.
Ac os yw hyn wedi ennyn eich chwilfrydedd ac mae arnoch eisiau canfod hyd yn oed mwy o wybodaeth, chwiliwch am ar gyfryngau cymdeithasol.
O.N.: Gwnawn bob amser adael ichi wybod canlyniad eich cais ar ôl y dyddiad cau – felly cadwch lygad ar eich ffôn a’ch e-byst.
How to apply
To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.
Post a resume